
Cynllun Aelodaeth Oriel Mon.
Cynllun
Aelodaeth
Gallwch gefnogi gwaith Oriel Môn i ysbrydoli
pobl drwy gasglu, addysgu a chreu arddangosfeydd sy’n dod ag artistiaid a
straeon Ynys Môn yn fyw. Am gyn lleied â £30 y flwyddyn gallwch helpu’r Oriel i
barhau i ddarparu ac ehangu ei gwaith. Yn ogystal â chyfrannu gallwch ymwneud
â’n gwaith. Gallwch dderbyn diweddariadau newyddion am y prosiectau a’r gwaith
ymchwil y mae’r Oriel yn rhan ohoni , gallwch archebu lle ymlaen llaw ar gyfer
teithiau tu ôl i’r llenni o gasgliadau celf gyda’n curadur. Byddwch hefyd yn
elwa o ostyngiad ar gyfer digwyddiadau ac yn y siop.
Buddion Aelodaeth:
- Pecyn croeso yn cynnwys cerdyn aelodaeth a llyfr nodiadau
- Gwahoddiadau i Olygon Preifat ac i Weithgareddau Arbennig
- 10% o ddiscownt ar ein dosbarthiadau
- 10% o ddiscownt ar bethau yn y Siop(ac eithrio gwaith artistiaid a gwneuthurwyr)
- E-byst rheolaidd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am waith Oriel Môn