Polisi Ad-dalu
Polisi Ad-daliadau ac Amnewid Nwyddau
Gobeithiwn eich bod yn hapus â’r hyn yr ydych wedi’i brynu. Fodd bynnag, os nad ydych yn gwbl fodlon rydym yn hapus i gynnig un o’r opsiynau canlynol:
Dychwelyd
Er mwyn cael ad-daliad neu newid yr eitem/eitemau, ar y pris prynu, gellir dychwelyd unrhyw eitem sydd mewn cyflwr y gellir ei werthu eto, o fewn 28 diwrnod i’w brynu os oes gennych dderbynneb. Defnyddiwch y pecyn gwreiddiol i’w anfon yn ôl a dylech gynnwys eich derbynneb a nodyn yn rhoi’r rheswm dros ddychwelyd yr eitem/eitemau.
Noder nad oes modd dychwelyd ein tocynnau rhodd.
Nwyddau Diffygiol
Os yw’r eitem yn ddiffygiol, rydym yn hapus i newid yr eitem neu gynnig ad-daliad. Bydd yr ad-daliad yn cael ei wneud i’r cerdyn a ddefnyddiwyd ar amser yr archeb.
Os ydych yn dychwelyd eitem oherwydd ei fod yn ddiffygiol neu oherwydd ein bod wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn rhoi ad-daliad i chi am y costau postio. Fel arall, chi fydd yn gyfrifol am gostau o’r fath.
Ad-daliadau (os yn berthnasol)
Unwaith y bydd yr eitem/eitemau yr ydych yn eu dychwelyd wedi cyrraedd ac ein bod wedi eu harchwilio, byddwn yn anfon e-bost atoch i’ch hysbysu ein bod wedi derbyn yr eitem yr ydych yn ei ddychwelyd. Byddwn hefyd yn eich hysbysu a yw eich ad-daliad yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ad-daliad, cysylltwch â ni drwy anfon neges at sioporielmonshop@ynysmon.gov.uk
Cyfnewid
Byddwn ond yn newid eitemau os ydynt yn ddiffygiol neu wedi eu difrodi. Os yr ydych yn dymuno ei newid am yr un eitem, cysylltwch â ni drwy anfon neges at sioporielmonshop@ynysmon.gov.uk a dylid dychwelyd yr eitem at:
Oriel Môn, Rhosmeirch, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TQ
Nid oes unrhyw beth a nodir yma yn effeithio ar eich hawliau statudol. Bydd yr holl ad-daliadau ac unrhyw newid eitem/eitemau yn cael ei ddelio ag ef o fewn ein hamodau a thelerau safonol.
Am fwy o wybodaeth gweler ein Telerau Busnes