Telerau y gwasanaeth
Telerau Busnes Oriel Môn (“Yr Oriel”) ar gyfer Prynu Nwyddau Ar-lein
1. Y Telerau hyn
1.1 Yr hyn y mae’r telerau hyn yn ei gynnwys. Dyma'r telerau ac amodau a ddefnyddiwn i gyflenwi nwyddau i chi ar ein gwefan Siop Oriel Môn
1.2 Pam y dylech eu darllen. Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn i chi gyflwyno'ch archeb i ni. Os credwch fod camgymeriad yn y telerau hyn, cysylltwch â ni drafod hyn.
2. Gwybodaeth amdanom a sut i gysylltu â ni
2.1. Pwy ydym ni. Oriel Môn, Rhosmeirch, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ ydym ni.
2.2 Sut i gysylltu â ni. Gallwch gysylltu â ni trwy ffonio ein prif rif yn 01248 724444 a dewis y gwasanaeth perthnasol neu drwy ysgrifennu atom yn ein cyfeiriad yn 2.1.
2.3 Sut y gallem gysylltu â chi. Os bydd yn rhaid i ni gysylltu â chi, byddwn yn gwneud hynny dros y ffôn neu trwy ysgrifennu atoch gan ddefnyddio'r dull cyfathrebu a ffefrir gennych ac yn eich dewis iaith, naill ai Cymraeg neu Saesneg.
2.4 Mae "Ysgrifennu" yn cynnwys e-byst. Pan ddefnyddiwn y geiriau "ysgrifennu" neu "ysgrifenedig" yn y termau hyn, mae hyn yn cynnwys e-byst neu negeseuon testun.
3. Ein contract gyda chi
3.1 Sut y byddwn yn derbyn eich archeb. Byddwn yn derbyn eich archeb unwaith y byddwn yn anfon e-bost atoch i'w dderbyn ac yn cyflwyno rhif archeb. Bryd hynny, daw contract i fodolaeth rhyngom.
3.2 Os na allwn dderbyn eich archeb. Os na allwn dderbyn eich archeb yn unol â'r Telerau a’r amodau ar gyfer pob taliad penodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn yn ysgrifenedig ac ni fyddwn yn codi tâl arnoch am y nwyddau. Gallai hyn ddigwydd oherwydd cyfyngiadau annisgwyl ar ein hadnoddau na allem gynllunio ar eu cyfer yn rhesymol, neu oherwydd ein bod wedi nodi gwall ym mhris neu ddisgrifiad y nwyddau neu'r gwasanaethau neu oherwydd nad ydym yn gallu cwrdd â'r dyddiad cau y nodwyd gennych ar gyfer eu danfon.
3.3 Eich Rhif Archeb. Byddwn yn neilltuo rhif i'ch archeb. Byddai o gymorth i ni pe gallech ddweud rif yr archeb wrthym pryd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni am eich archeb.
3.4 Caiff unrhyw archeb a gyflwynwch ar ein gwefan ei reoleiddio dan ein Polisi Prosesu Data a’n Telerau Defnyddio’r Wefan
4. Nwyddau
4.1 Gallai nwyddau a gwasanaethau amrywio ychydig o'u lluniau. At ddibenion eglurhaol yn unig y mae lluniau'r nwyddau ar ein gwefan. Er ein bod wedi gwneud pob ymdrech i ddangos y lliwiau’n gywir, ni allwn warantu bod y modd y mae dyfais yn dangos lliwiau yn adlewyrchu’n gywir liw'r nwyddau. Gallai eich nwyddau amrywio ychydig o'r lluniau hynny.
5. Ein hawliau i wneud newidiadau
5.1 Newidiadau i’r nwyddau a’r costau. Efallai y caiff y rhain eu newid:-
a) i adlewyrchu newidiadau mewn deddfau a gofynion rheoliadol perthnasol; a
b) i weithredu mân addasiadau a gwelliannau technegol, er enghraifft i roi sylw i fygythiad diogelwch.
c) yn unol â gofynion y gyllideb.
6. Danfon y nwyddau
6.1 Costau Danfon. Bydd y costau danfon i’w gweld ar ein gwefan.
a) Pryd y byddwn yn danfon nwyddau. Pan fyddwn yn derbyn archeb gennych, byddwn yn ymdrechu i ddanfon y nwyddau o fewn amser rhesymol.
b) Os ydym yn cyflenwi nwyddau, byddwn yn eu danfon i chi cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosib a, beth bynnag, o fewn 30 diwrnod ar ôl y diwrnod y byddwn yn derbyn eich taliad. Rydym yn anelu i ddanfon gwaith o fewn 7-10 diwrnod.
c) Os yw’n wasanaeth unwaith ac am byth. Byddwn yn dechrau’r gwasanaeth cyn pen 30 diwrnod ar ôl y diwrnod y byddwn yn derbyn eich taliad.
6.2 Nid ydym yn gyfrifol am oedi y tu draw i’n rheolaeth Os bydd digwyddiad y tu hwnt i'n rheolaeth yn gohirio gwaith cyflenwi'r nwyddau, yna, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a byddwn yn cymryd camau i leihau effaith yr oedi i’r eithaf. Ar yr amod ein bod yn gwneud hyn, ni fyddwn yn atebol am oedi a achosir gan y digwyddiad, ond os oes risg o oedi sylweddol o dros 30 diwrnod (“Dyddiad cau'r Gweithredu”), gallwch gysylltu â ni i ofyn am ad-daliad.
6.3 Beth fydd yn digwydd os na roddwch wybodaeth ofynnol i ni? Efallai y bydd angen gwybodaeth benodol arnom fel y gallwn gyflenwi'r nwyddau i chi, er enghraifft, eich cyfeiriad. Os felly, bydd hyn wedi'i nodi ar ein gwefan. Byddwn yn cysylltu â chi’n ysgrifenedig i ofyn am y wybodaeth hon. Os na roddwch y wybodaeth hon i ni o fewn pum diwrnod gwaith i ni ofyn amdani neu, os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghyflawn neu anghywir i ni, gallwn naill ai ddirwyn y contract i ben (a bydd cymal 9.1 yn berthnasol) neu godi tâl ychwanegol, resymol i'n digolledu am unrhyw waith ychwanegol sy'n ofynnol o ganlyniad i hyn. Ni fyddwn yn gyfrifol am gyflenwi'r nwyddau yn hwyr neu am beidio â chyflenwi unrhyw ran ohonynt os digwydd hyn oherwydd i chi beidio â rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom o fewn amser rhesymol i ni ofyn amdani.
6.4 Rhesymau y gallwn atal y cyflenwad nwyddau i chi. Efallai y bydd yn rhaid i ni atal gwaith cyflenwi’r nwyddau neu:
a) delio â phroblemau technegol neu wneud mân newidiadau technegol;
b) gwneud newidiadau i’r nwyddau i adlewyrchu newidiadau mewn deddfau a gofynion rheoliadol perthnasol;
c) gwneud newidiadau i'r nwyddau yn unol â chais gennych neu wedi i ni roi gwybod i chi (gweler cymal 5).
6.5 Eich hawliau os ydym yn atal gwaith cyflenwi nwyddau. Byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw i ddweud wrthych y byddwn yn atal gwaith cyflenwi nwyddau, oni bai bod y broblem yn un frys neu'n argyfwng.
6.6 Y Gymraeg mae gennych hawl i dderbyn eich gwasanaeth yn Gymraeg neu Saesneg a byddwch yn derbyn yr un safon gwasanaeth yn y ddwy iaith.
7 Eich hawliau i ddirwyn y contract i ben
7.1 Pan fyddwch yn dirwyn y contract i ben bydd eich hawliau’n dibynnu ar yr hyn yr ydych wedi'i brynu, a oes unrhyw beth o'i le arno, sut rydym yn perfformio, pa bryd y byddwch yn penderfynu dirwyn y contract i ben ac ai defnyddiwr ydych ynteu gwsmer busnes:
a) Os yw'r hyn yr ydych wedi'i brynu yn ddiffygiol neu wedi’i gamddisgrifio, efallai y bydd gennych hawl gyfreithiol i ddirwyn y contract i ben (neu i gael trwsio’r nwyddau neu gael rhai newydd yn eu lle neu gael ail-wneud y gwaith neu gael rhywfaint neu'r cyfan o'ch arian yn ôl), gweler cymal 11 os defnyddiwr ydych a gweler cymal 12 os busnes ydych;
b) Os ydych am ddirwyn y contract i ben oherwydd rhywbeth rydyn ni wedi'i wneud neu wedi’i ddweud wrthych ein bod am ei wneud, gweler cymal b);
c) Os defnyddiwr ydych ac rydych wedi newid eich meddwl ynghylch y nwyddau, gweler cymal 7.3. Efallai y gallwch gael ad-daliad os ydych o fewn y cyfnod ailfeddwl, ond, efallai na chewch yr arian i gyd yn ôl ac y bydd yn rhaid i chi dalu'r costau ailstocio;
7.2 Dirwyn y contract i ben oherwydd rhywbeth yr ydym wedi'i wneud neu'n mynd i'w wneud. Os ydych yn dirwyn contract i ben am reswm a nodir yn (a) i (c) isod, bydd y contract yn dirwyn i ben ar unwaith a byddwn yn eich ad-dalu'n llawn am unrhyw nwyddau na chawsant eu cyflenwi ac efallai y bydd gennych hawl i iawndal hefyd. Y rhesymau yw:
a) rydym wedi dweud wrthych am gamgymeriad ym mhris y nwyddau yr ydych wedi'u harchebu neu yn y disgrifiad ohonynt ac nid ydych yn dymuno bwrw ymlaen gyda’r archeb;
b) mae risg y gellid bod oedi sylweddol wrth gyflenwi’r nwyddau oherwydd digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth;
c) rydym wedi atal gwaith cyflenwi’r nwyddau am resymau technegol, neu wedi eich hysbysu ein bod yn mynd i'w atal am resymau technegol, ym mhob achos am gyfnod o fwy na 30 diwrnod.
7.3 Arfer eich hawl i newid eich meddwl os defnyddiwr ydych (Rheoliadau Contractau Defnyddwyr 2013). Os defnyddiwr ydych, mae gennych hawl gyfreithiol i newid eich meddwl cyn pen 14 diwrnod calendr a derbyn ad-daliad am fwyafrif y nwyddau a brynir ar-lein gyda gwerth o £42 neu fwy. Esbonnir yr hawliau hyn, dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr 2013, yn fanylach yn y telerau hyn.
7.4 Pan nad oes gan ddefnyddwyr hawl i newid eu meddyliau. Nid yw eich hawl fel defnyddiwr i newid eich meddwl yn berthnasol mewn perthynas â:
a) nwyddau sy'n costio llai na £42;
b) nwyddau sydd wedi'u selio er mwyn gwarchod iechyd neu at ddibenion hylendid, unwaith y bydd y rhain wedi'u hagor ar ôl i chi eu derbyn;
c) unrhyw nwyddau sy'n dod yn gymysg ag eitemau eraill ar ôl eu danfon ac nad oes modd eu gwahanu.
7.5 Dirwyn y contract i ben lle nad ydym ar fai ac nad oes hawl i newid eich meddwl. Hyd yn oed os nad ni sydd ar fai ac nid defnyddiwr sydd â hawl i newid ei feddwl ydych (gweler cymal 7.1), gallwch barhau i ddirwyn y contract i ben cyn iddo gael ei gwblhau. Cwblheir contract ar gyfer nwyddau pan ddosberthir y nwyddau. Os ydych yn dymuno dirwyn y contract i ben dan yr amgylchiadau hyn, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni. Ni fydd y contract yn dirwyn i ben am 1 mis calendr ar ôl y diwrnod y byddwch yn cysylltu â ni.
8. Sut i ddod â'r contract i ben gyda ni (gan gynnwys os defnyddiwr sydd wedi newid ei feddwl ydych)
8.1 Dywedwch wrthym eich bod yn dymuno dirwyn y contract i ben. Er mwyn dirwyn y contract â ni i ben, rhowch wybod i ni trwy wneud un o’r isod:
a) Ffonio neu e-bostio - 01248 724444 a sioporielmonshop@ynysmon.gov.uk
b) Trwy’r post. Ysgrifennu atom yn y cyfeiriad a welir yn 2.1
8.2 Dychwelyd nwyddau ar ôl dirwyn y contract i ben. Os byddwch yn dirwyn y contract i ben am unrhyw reswm ar ôl i nwyddau gael eu hanfon atoch neu wedi i chi eu derbyn, rhaid i chi eu dychwelyd atom. Rhaid i chi naill ai ddychwelyd y nwyddau trwy eu postio yn ôl atom neu (os nad ydynt yn addas i'w postio) ganiatáu i ni eu casglu gennych.
8.3 Sut y byddwn yn rhoi ad-daliad. Os oes gennych hawl i gael ad-daliad dan y telerau hyn a than unrhyw Delerau ac Amodau penodol mewn perthynas â'r nwyddau penodol, byddwn yn ad-dalu'r pris a daloch am y nwyddau gan gynnwys costau cludiant, trwy'r dull a ddefnyddiwyd gennych i dalu amdanynt. Fodd bynnag, gallem ostwng y pris y byddwn yn ei ad-dalu, fel y disgrifir isod.
8.4 Pa bryd y byddir yn ad-dalu. Byddwn yn gwneud unrhyw ad-daliadau sy'n ddyledus i chi cyn gynted â phosibl. Os defnyddiwr sy'n arfer eich hawl i newid ei feddwl ydych, yna bydd eich ad-daliad yn cael ei wneud cyn pen 14 diwrnod calendr o'r diwrnod y byddwn yn derbyn y nwyddau yn ôl gennych neu, os bydd hyn yn gynt, y diwrnod y byddwch yn rhoi tystiolaeth i ni eich bod wedi anfon y nwyddau yn ôl atom. Am wybodaeth ynglŷn â sut i ddychwelyd nwyddau atom, gweler y cymal 8.2
9. Ein hawliau i ddirwyn y contract i ben
9.1 Efallai y byddwn yn dirwyn y contract i ben os byddwch yn ei dorri. Efallai y byddwn yn dirwyn contract ar gyfer nwyddau i ben ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu atoch os:
a) nad ydych yn rhoi gwybodaeth sy'n angenrheidiol i ni ddarparu'r nwyddau, a hynny o fewn pum diwrnod gwaith i ni ofyn amdani;
b) nad ydych yn caniatáu i ni ddanfon y nwyddau i chi nac yn eu casglu gennym, a hynny o fewn pum diwrnod gwaith.
10. Os oes problem gyda’r nwyddau
Sut i’n hysbysu am broblemau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion am y nwyddau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yng nghymal 2.1. Ni fydd unrhyw beth yn y telerau hyn yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol.
Crynodeb o’ch hawliau cyfreithiol. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i gyflenwi cynnyrch sy’n cyd-fynd â’r contract hwn. Gweler y bocs isod am grynodeb o’ch hawliau cyfreithiol allweddol mewn perthynas â’r cynnyrch hwn. Ni fydd unrhyw beth yn y telerau hyn yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol.
Crynodeb o’ch hawliau cyfreithiol allweddol
Dyma grynodeb o’ch hawliau cyfreithiol allweddol. Mae’r rhain yn destun i eithriadau penodol. Am wybodaeth fanwl ymwelwch â gwefan Cyngor ar Bopeth drwy fynd i www.adviceguide.org.uk neu ffoniwch 03454 04 05 06.
Os mai nwyddau, yw eich cynnyrch mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn nodi bod yn rhaid i nwyddau fod fel y’i disgrifiwyd, yn addas i’r diben ac o ansawdd boddhaol. Yn ystod oes ddisgwyliedig eich cynnyrch, mae eich hawliau cyfreithiol yn rhoi’r hawl i’r canlynol i chi:
a) Hyd at 30 diwrnod: os yw eich nwyddau yn ddiffygiol yna gallwch gael ad-daliad ar unwaith.
b) Hyd at chwe mis: os nad oes modd i’ch nwyddau gael eu trwsio neu eu newid, mae gennych hawl i ad-daliad llawn, yn y rhan fwyaf o achosion.
c) Hyd at chwe blynedd: os nad yw eich nwyddau yn para cyfnod rhesymol o amser, efallai y bydd gennych hawl i gael ychydig o arian yn ôl.
Eich ymrwymiad i ddychwelyd cynnyrch sydd wedi’i wrthod. Os ydych yn dymuno ymarfer eich hawliau cyfreithiol i wrthod cynnyrch rhaid i chi un ai ddychwelyd y cynnyrch yn bersonol i’r man lle gwnaethoch eu prynu, eu postio nhw’n ôl i ni neu (os nad ydynt yn addas i’w postio) gadael i ni ddod i’w nôl nhw gennych. Byddwn ni yn talu’r costau postio neu gasglu.
Sut i ddweud wrthym am broblemau. Os oes gennych gwestiynau neu gwynion am y nwyddau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yng nghymal 2.1. Ni fydd dim yn y telerau hyn yn cael effaith ar eich hawliau
11. Pris a thaliad
11.1 Lle i ganfod y pris am y nwyddau. Pris y nwyddau fydd y pris a nodir ar y ffurflen ar-lein pan roesoch eich archeb.
11.2 Beth fydd yn digwydd os cawsom y pris yn anghywir. Er gwaethaf ceisio ein gorau glas, mae hi bob amser yn bosibl y gallai rhai o'r nwyddau yr ydym yn eu gwerthu gael eu prisio'n anghywir. Os ydym yn derbyn ac yn prosesu eich archeb lle mae camgymeriad prisio’n amlwg ac yn ddigamsyniol ac y gallai fod wedi ei gydnabod yn rhesymol gennych fel cambrisiad, gallwn ddirwyn y contract i ben, ad-dalu unrhyw symiau yr ydych wedi'u talu a gofyn am ddychwelyd unrhyw nwyddau a gyflwynir i chi.
11.3 Pa bryd y mae’n rhaid i chi dalu a sut mae’n rhaid i chi dalu. Rydym yn derbyn taliad gyda chardiau Visa Debit a Visa Credit, Mastercard Debit a Mastercard Credit. Rhaid i chi dalu am y nwyddau neu’r gwasanaethau wrth i chi eu harchebu.
11.4 Allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb os gwrthodir taliad gan gyflenwr y cerdyn credyd / debyd
oherwydd i chi ddyfynnu manylion anghywir y cerdyn, neu oherwydd rhesymau eraill. Os bydd cyflenwr y cerdyn credyd / debyd yn gwrthod talu, nid ydym dan unrhyw rwymedigaeth i dynnu’ch sylw at y ffaith hon. Dylech wirio gyda chyflenwr eich cerdyn banc / credyd / debyd bod taliad wedi'i dynnu o'ch cyfrif.
12. Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a gawsoch os defnyddiwr ydych
12.1 Rydym yn gyfrifol i chi am golled a difrod rhagweladwy a achosir gennym. Os na fyddwn yn cydymffurfio â'r telerau hyn, rydym yn gyfrifol am golled neu ddifrod a gewch sy'n ganlyniad rhagweladwy ohonom ni’n torri'r contract hwn neu o’n methiant ni i ddefnyddio gofal a sgil rhesymol, ond nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod nad yw’n rhagweladwy. Gellir rhagweld colled neu ddifrod os yw naill ai'n amlwg y bydd yn digwydd neu, ar yr adeg y gwnaed y contract, os oeddem ni a chi’n gwybod y gallai ddigwydd, er enghraifft, pe byddech chi wedi’i drafod gyda ni yn ystod y broses werthu.
12.2 Nid ydym yn eithrio mewn unrhyw ffordd ein hatebolrwydd i chi nac yn cyfyngu arno lle byddai'n
anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantiaid neu isgontractwyr; am dwyll neu gamliwio twyllodrus; am dorri eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â'r gwasanaethau.
13. Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a gawsoch os busnes ydych
13.1 Ni fydd unrhyw beth yn y telerau hyn yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am yr isod nac yn ei eithrio:
a) marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan ein hesgeulustod, neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantiaid neu isgontractwyr (fel bo’n berthnasol);
b) twyll neu gamliwio twyllodrus;
c) torri'r telerau a awgrymir gan adran 12 Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 neu adran 2 Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982; neu
d) gwasanaethau diffygiol dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987; neu
e) unrhyw fater y byddai'n anghyfreithlon i ni ei eithrio neu gyfyngu ein hatebolrwydd yn ei gylch.
13.2 Ac eithrio i'r graddau a nodir yn benodol yn y cymal 13.1 mae'r holl delerau a awgrymir gan adrannau 13 i 15 Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 ac adrannau 3 i 5 Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 wedi'u heithrio.
13.3 Yn amodol ar gymal 13.1:
a) ni fyddwn yn atebol i chi, p'run ai mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, am unrhyw golled elw, nag unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n codi dan neu mewn cysylltiad ag unrhyw gontract rhyngom; a
b) bydd ein holl atebolrwydd i chi am yr holl golledion eraill sy'n codi dan neu mewn cysylltiad ag unrhyw gontract rhyngom, p'run ai mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, yn gyfyngedig i 100% o gyfanswm y symiau a dalwyd gennych am wasanaethau dan gontract o'r fath.
14. Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth fel y nodir yn ein Polisi Preifatrwydd yn unig.
15 Telerau pwysig eraill
15.1 Nid oes gan unrhyw un arall unrhyw hawliau dan y contract hwn. Rhyngoch chi a ni y mae'r contract hwn. Ni fydd gan unrhyw berson arall unrhyw hawliau i orfodi unrhyw un o'i delerau, ac eithrio fel yr eglurir yn y cymal 15.2. yng nghyswllt ein gwarant. Ni fydd angen i'r naill na'r llall ohonom gael cytundeb unrhyw berson arall er mwyn dirwyn y contract i ben nac i wneud unrhyw newidiadau i'r telerau hyn.
15.2 Os bydd llys yn gweld bod rhan o'r contract hwn yn anghyfreithlon, bydd y gweddill yn parhau mewn grym. Mae pob un o baragraffau'r telerau hyn yn gweithredu ar wahân. Os bydd unrhyw lys neu awdurdod perthnasol yn penderfynu bod unrhyw un ohonynt yn anghyfreithlon, bydd y paragraffau sy'n weddill yn parhau i fod mewn grym ac effaith lawn.
15.3 Hyd yn oed os byddwn yn oedi cyn gorfodi'r contract hwn, gallwn ei orfodi yn nes ymlaen. Os na fyddwn yn mynnu ar unwaith eich bod yn gwneud unrhyw beth y mae'n ofynnol i chi ei wneud dan y telerau hyn, neu os byddwn yn oedi cyn cymryd camau yn eich erbyn mewn perthynas â thorri'r contract hwn, ni fydd hynny'n golygu nad oes raid i chi wneud y pethau hynny ac ni fydd yn ein hatal rhag cymryd camau yn eich erbyn yn nes ymlaen. Er enghraifft, os byddwch yn methu taliad ac nid ydym yn mynd ar eich ôl ond ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau, gallwn ofyn i chi wneud y taliad yn ddiweddarach.
15.4 Pa gyfreithiau sy'n berthnasol i'r contract hwn a lle y gallwch ddwyn achos cyfreithiol os defnyddiwr ydych. Caiff y telerau hyn eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'r gwasanaethau yn llysoedd Cymru a Lloegr.