Polisi Dosbarthu

Polisi Postio

Costau

Ardal Archebion o dan £25 Archebion £25 - £150 Archebion dros £150
Cymru/DU £3.50 £5.50 £15
Ewrop £9.50 £12.50
Gweddill £14.50 £19.50

*Noder, os ydych yn prynu lithograff wedi’i arwyddo gan Kyffin Williams – rydym yn codi £15.

Casglwch AM DDIM o Oriel Môn, Rhosmeirch, Llangefni, Anglesey LL77 7TQ

Mae’r holl nwyddau ar gael i’w prynu yn uniongyrchol o siop yr Oriel yn Llangefni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich archeb, cysylltwch â ni drwy anfon neges at sioporielmonshop@ynysmon.gov.uk neu ffoniwch 01248 724444 (10am -4pm) a byddwn yn falch o allu eich helpu.

Danfon

Byddwn yn ceisio postio archebion ar yr un diwrnod y byddwn yn eu derbyn. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Disgwylir i bethau gymryd rhwng 7 a 10 diwrnod gwaith i’ch cyrraedd. Anfonir neges e-bost i gadarnhau bod yr eitemau wedi cael eu hanfon unwaith y bydd hynny wedi digwydd.

Gall postio i rai gwledydd tu allan i Brydain olygu y bydd angen talu treth mewnforio. Mae’n gyfrifoldeb arnoch chi fel cwsmer i dalu’r costau yma.

Rydym yn pacio bob archeb yn ofalus ac rydym yn disgwyl i’r archebion eich cyrraedd mewn cyflwr da. Mewn achos lle nad yw’r archeb yn eich cyrraedd yn y cyflwr gorau, er nad ydym yn derbyn cyfrifoldeb am ddifrod, mi fyddwn yn ceisio eich cefnogi. Cysylltwch â ni.

Pecynnu

Rydym yn ceisio lleihau faint o bapur, plastig a chardbord yr ydym yn ei ddefnyddio yma yn Oriel Môn a hynny fel rhan o’n hymrwymiad i’r amgylchedd, Felly, lle bo hynny’n bosibl, bydd archebion yn cael eu pecynnu mewn bocs sydd wedi’i ddefnyddio o’r blaen neu focs wedi’i ailgylchu a deunydd pacio sydd wedi’i ddefnyddio o’r blaen.

Cymraeg
Cymraeg