Ben Teddy Bear (113963) 30cm
Mae Ben y Tedi yn 30cm o uchder
ac mae wedi’i wneud o ddeunydd cnu tedi meddal lliw llwydfelyn ac mae’n gyfaill
prysur a ffyddlon. Fel aelod o deulu eirth Steiff, mae o’n hynod o falch o’i
hen, hen, hen daid, 55PB! Mae Ben wrth ei fodd yn chwarae gyda’i ffrindiau ac
mae o bob amser yn brysur. Mae gwnïad nodweddiadol i lawr canol y corff, y
breichiau a’r coesau, mae ganddo gorff anwesol, pawennau mawr cyferbyniol, yn
ogystal â llygaid praff, gwên hwyliog, clustiau tedi bêr nodweddiadol, trwyn
brown tywyll a’r “Botwm yn y Glust” clasurol o ddur gwrthstaen!
Gwnaed o ddeunydd plỳsh meddal anwesol.
Golchwch ar dymheredd o 30° C, Peidiwch
â defnyddio cannydd, ei roi mewn peiriant sychu dillad, defnyddio haearn
smwddio na sychlanhau