Llyn Cerrig Bach - Cymraeg

Llyn Cerrig Bach - Cymraeg

  • £11.95
    Pris uned am bob 
Treth yn gynwysiedig Ceir costau cludiant eu gyfrif yn y fasged.


Cerbydau rhyfel, cleddyfau a gwaywffyn o Oes yr Haearn, cilgant efydd gloyw, mownt tarian bendigedig, corn efydd, crochanau, bariau a chadwyni haearn. Trysorau ysblennydd a godwyd o’r mawn yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Byth ers hynny, mae cyfrinachau’r llyn bychan hwn yng ngogledd Cymru wedi peri penbleth i archeolegwyr. Ai offrymau i’r duwiau oedden nhw? Pwy oedd y bobl a ddaeth at y llyn? Sut oedden nhw’n byw? Mae llyfr newydd Oriel Ynys Môn yn taflu goleuni newydd ar ffordd o fyw y bobl - eu teuluoedd, y rhyfelwyr a’r Derwyddon - oedd yn byw ar Ynys Môn cyn i’r Rhufeiniaid oresgyn yr ynys a newid eu ffordd o fyw am byth. Awdur: Philip Steele / Ymgynghorydd Archaeolegol: Frances Lynch / Cyfranwyr: Miranda Aldhouse-Green, Peter a Susan Crew, Andrew Davidson, Mary Davis, Adam Gwilt, Frances Lynch, Philip Macdonald, Evelyn Owen-Jones, George Smith, Tim Young / Casglwyd a chynhyrchwyd gan Llyfrau Magma ar gyfer Oriel Ynys Môn, Cyngor Sir Ynys Môn.

Awdur a Golygydd: Philip Steele
Cyhoeddwyd: 2012
Fformat: Clawr meddal, 22.5cm x 24.5cm, 84 tudalen
Iaith: Saesneg
ISBN: 978-1-902565-12-5


Rydym hefyd yn argymhell

Cymraeg
Cymraeg