Hoppie ballet rabbit (081064) 30cm
Mae Hoppie y gwningen wedi dod yn brif ddawnswraig bale!
Mae Hoppie, y tegan meddal poblogaidd sy’n werthwr gorau, wedi cael gwisg
dawnswraig fale yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac mae’n edrych yn wych arni.
Mae hi’n gwisgo gwisg binc mewn deunydd bwa meddal ar ei chorff, cyfwisg tiwl
ar ei phen, a twtw tiwl dawnswraig bale wrth gwrs. Ni wnaiff Hoppie annwyl
adael i neb fynd â’r wisg yma oddi arni – mae hi wedi’i gwnïo’n sownd i’w
chorff ac nid oes modd ei thynnu. Wedi’r cyfan, mae lliw pinc ei gwisg yn
cyd-fynd yn berffaith â’i thrwyn smwt. Er mwyn i Hoppie symud yn osgeiddig mae
ganddi gorff sy’n hongian yn debyg i ddol. Mae’r bagiau o ronynnau yn ei
chorff, ei breichiau a’i thraed yn sicrhau ei bod yn gallu perffeithio ei symudiadau
– ac nid i wneud plié ac arabésg yn unig. Mae’r clustiau hir iawn hefyd yn
symud yn osgeiddig wrth wneud pirwét. Mae Hoppie yn 30 cm o uchder ac mae’n
gyfaill delfrydol ar gyfer dawnswyr bach a mawr.
Gwnaed o ddeunydd plỳsh meddal anwesol.
Golchwch ar dymheredd o 30° C, Peidiwch â defnyddio
cannydd, ei roi mewn peiriant sychu dillad, defnyddio haearn smwddio na
sychlanhau