Charles Tunnicliffe - Prints :A Catalogue Raisonne
Teitl: C F Tunnicliffe Prints
Yn fab i
ffermwr o Sir Gaer, fe enillodd yr arlunydd Charles Frederick Tunnicliffe
(1901-79) ysgoloriaeth i’r Coleg Celf Brenhinol yn 1920. Fe aeth yn ei flaen i
weithio gydag amrywiaeth o gyfryngau, gan ddarlunio ei hoff destun, adar
brodorol a ffawna eraill Prydain, yn fanwl ond yn wahanol i arferion y cyfnod,
yn eu cynefin brodorol. Yn enwog fel darlunydd argraffiad 1932 o ‘Tarka the
Otter’ gan Henry Williamson ynghyd a nifer o gardiau te Brooke Bond (eitem
casglwr poblogaidd ym Mhrydain yn y cyfnod yn dilyn y Rhyfel), roedd
Tunnicliffe yn byw yn Ynys Môn am dros 30 mlynedd. Cafodd ei ethol yn Academydd
Brenhinol yn 1954. Mae’r catalog mirain hwn o dros 430 o’i brintiau yn cynnwys
darluniau prydferth wedi’u hanodi gan y gwneuthurwyr printiau, Robert Meyrick a
Harry Heuser.
Am
yr Awdur:
Mae Robert Meyrick yn
Bennaeth yr Ysgol Gelf ac yn Geidwad Amgueddfa a Chasgliadau’r Ysgol Gelf ym
Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan Harry Heuser ddoethuriaeth
mewn Saesneg o Brifysgol y Ddinas Efrog Newydd. Ar hyn o bryd mae'n dysgu ym
Mhrifysgol Aberystwyth.
Gall "Am y teitl hwn" fod yn cyfeirio at argraffiad arall o’r teitl hwn
.
Awduron: Robert Meyrick And Harry Heuser
Cyhoeddwr: Academi Frenhinol y Celfyddydau
Dyddiad Cyhoeddi: 2017
Rhwymiad: Clawr caled, 336 Tudalen ,22 x 4 x 30 cm
Iaith: Saesneg
ISBN 10 : 1910350648/ ISBN 13 :9781910350645