Charles Tunnicliffe - Prints :A Catalogue Raisonne

  • £35.00
    Pris uned am bob 
Treth yn gynwysiedig Ceir costau cludiant eu gyfrif yn y fasged.


Teitl: C F Tunnicliffe Prints


Crynodeb:

Yn fab i ffermwr o Sir Gaer, fe enillodd yr arlunydd Charles Frederick Tunnicliffe (1901-79) ysgoloriaeth i’r Coleg Celf Brenhinol yn 1920. Fe aeth yn ei flaen i weithio gydag amrywiaeth o gyfryngau, gan ddarlunio ei hoff destun, adar brodorol a ffawna eraill Prydain, yn fanwl ond yn wahanol i arferion y cyfnod, yn eu cynefin brodorol. Yn enwog fel darlunydd argraffiad 1932 o ‘Tarka the Otter’ gan Henry Williamson ynghyd a nifer o gardiau te Brooke Bond (eitem casglwr poblogaidd ym Mhrydain yn y cyfnod yn dilyn y Rhyfel), roedd Tunnicliffe yn byw yn Ynys Môn am dros 30 mlynedd. Cafodd ei ethol yn Academydd Brenhinol yn 1954. Mae’r catalog mirain hwn o dros 430 o’i brintiau yn cynnwys darluniau prydferth wedi’u hanodi gan y gwneuthurwyr printiau, Robert Meyrick a Harry Heuser.

Am yr Awdur:

Mae Robert Meyrick yn Bennaeth yr Ysgol Gelf ac yn Geidwad Amgueddfa a Chasgliadau’r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan Harry Heuser ddoethuriaeth mewn Saesneg o Brifysgol y Ddinas Efrog Newydd. Ar hyn o bryd mae'n dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gall "Am y teitl hwn" fod yn cyfeirio at argraffiad arall o’r teitl hwn

.

Awduron: Robert Meyrick And Harry Heuser

Cyhoeddwr: Academi Frenhinol y Celfyddydau

Dyddiad Cyhoeddi: 2017

Rhwymiad: Clawr caled, 336 Tudalen ,22 x 4 x 30 cm

Iaith: Saesneg

ISBN 10 : 1910350648/ ISBN 13 :9781910350645


Rydym hefyd yn argymhell

Cymraeg
Cymraeg